Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Wedi'i ysgrifennu ar gefn y gwaith yma mae: "Gall agosatrwydd amlygu ei hun mewn ffotograff yn llythrennol, gan ddangos agosatrwydd gwirioneddol rhwng pobl, neu gael ei awgrymu yn y ddelwedd trwy weithred o fewnoli dwfn. Ychydig yn fwy dirgel... Pryfoclyd efallai? Fel ffotonewyddiadurwr am sawl blwyddyn, fy ngwaith i oedd bod yn ddidactig, ond erbyn hyn mae fy nhrywydd i wedi newid: Dw i'n dal i gredu mewn bod yn dyst, ac eto rwy'n fwy tueddol o adael fy nghynulleidfa gyda chwestiynau heb eu hateb. Pam mae angen datrys popeth? Onid yw'n bleser dychmygu beth allai fod yn digwydd? Dw i'n ormod o ran o'r stori, i'm gwaith gael ei ystyried yn ffotonewyddiaduraeth o hyd. Eto i gyd, efallai y bydd y gwaith newydd yn dal i fod yn rhan o rai dehongliadau o ddogfennu. Does dim ots gen i. Yn syml, dw i ar afon sy'n mynd â fi i ble bynnag mae'n mynd." — David Alan Harvey