Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Aberfan Coal Slip Disaster. Two surviving children stand at the top of the hill overlooking the miners digging to find children still buried in the slag
Teitl llawn: Trychineb Llithriad Glo Aberfan. Dau blentyn sydd wedi goroesi yn sefyll ar ben y bryn yn edrych i lawr ar y glowyr yn cloddio i ganfod plant sy’n dal wedi’u claddu yn y sorod. Cafodd dros gant o blant a oedd yn niogelwch eu hysgol eu claddu o dan wastraff y domen lo a lithrodd.
David Hurn oedd un o’r ffotograffwyr cyntaf i gyrraedd lleoliad y drychineb yn Aberfan ym 1966, a laddodd 116 o blant a 28 o oedolion. Defnyddiwyd detholiad o ffotograffau Hurn fel tystiolaeth yn San Steffan, a arweiniodd at ddiwygiadau i safonau diogelwch wrth gloddio. Cyhoeddwyd ei ffotograffau ym mhob cylchgrawn nodedig ledled y byd, a chwaraeon nhw ran sylweddol yn yr ymchwiliad a ganfu fod y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn gwbl gyfrifol.
Meddai David Hurn am ei waith yn Aberfan, “Ni all neb byth ddweud na ddigwyddodd, neu nad oedd mor wael ag roedd yn ymddangos.”
Cafodd y digwyddiad effaith sylweddol ar Hurn, gan gyfrannu at ei benderfyniad i symud yn ôl i Gymru’n barhaol ym 1971.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.