Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
School book
Llyfr ysgol Marylyn Minett o Aberfan. Roedd Marylyn yn ddeg mlwydd oed pan lladdwyd hi yn ei hystafell ddosbarth yn Ysgol Gynradd Pantglas, Aberfan ar 21 Hydref 1966. Lladdwyd Carl, ei brawd bach saith oed yn y drychineb hefyd. Mae'r llyfr ysgol o'r enw 'English Progress Papers' (heb y clawr) yn cynnwys ymarferion gramadegol Saesneg wedi eu cwblhau gan Marylyn tra yn yr ysgol. Ar y dudalen flaen mae Marylyn wedi ysgrifennu ei henw gyda enwau aelodau ei theulu mewn pensil yn cynnwys ei rhieni (Cliff ac Iris), ei pedair chwaer (Sian, Michele, Gaynor, Belinda) a'i brawd bach, Carl.