Casgliadau Celf Arlein
Pont Neuf, Effaith Eira, ail gyfres
PISSARRO, Camille (1831 - 1903)
Dyddiad: 1902
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 54.5 x 65.3 cm
Derbyniwyd: 1963; Cymynrodd; Margaret Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2493
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Rhwng mis Rhagfyr 1900 a'i farw byddai Pissarro yn lletya bob yn awr ac yn y man yn 28 Place Dauphine ar ochr ogleddol Ile de la Cité ym Mharis. Daw'r olygfa hon o eira gyda char modur, cerbydau a cherddwyr gydag ymbarelau yn croesi Pont Neuf o'r ail gyfres o olygfeydd o'r bont a beintiwyd ganddo o ffenestr ei lety yn ystod y cyfnod hwnnw. Prynwyd y gwaith gan Margaret Davies ym 1920.
sylw - (1)