Casgliadau Celf Arlein
Tirlun Creigiog gyda Phont [Rocky Landscape with a Bridge]
GAINSBOROUGH, Thomas (1727 - 1788)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 38.1 x 53.3 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 99
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Er ei fod yn enwog fel un o brif bortreadwyr ffasiynol Llundain a Chaerfaddon, yr oedd Gainsborough hefyd yn beintiwr tirluniau o fri. Ar ôl ymweld â llynnoedd Cumberland yn ystod haf 1783, peintiodd gyfres o dirluniau, wedi eu hysbrydoli gan olygfeydd cyfrin yr ardal honno. Mae'r creigiau anferth yn y tirlun garw hwn hefyd yn adlewyrchu diddordeb yng ngolyfeydd 'darluniadol' Gaspard Poussin a Salvator Rosa.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.