Casgliadau Celf Arlein
Merch y Gwyddau yn Gruchy
MILLET, Jean-François (1814 - 1875)
Dyddiad: 1854-6
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 33.0 x 24.8 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2479
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Mae’r olwg bell a hiraethus ar wyneb y ferch yn cyferbynnu â’r gwyddau bywiog sy’n clegar a nofio y tu ôl iddi. Yn y cefndir gwelir tai Gruchy, pentref genedigol Millet yn Normandi. Cafodd y darn hwn ei beintio ar ôl ei ymweliad cyntaf â’r ardal mewn deng mlynedd bron. Mae rhyw ymdeimlad hiraethus yma, yn wahanol i’w luniau diweddarach a beintiodd yn Barbizon yng nghoedwig Fontainebleau.
sylw - (1)