Casgliadau Celf Arlein
Llys Haf
MONTICELLI, Adolphe (1824 - 1886)
Cyfrwng: olew ar banel
Maint: 39.3 x 59.7 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2489
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Ganed Monticelli ym Marseilles a threuliodd y blynyddoedd 1847-49 a 1856-70 ym Mharis. Yno daeth yn ddwfn o dan ddylanwad lliw Delacroix a chyfansoddiadau adfywiad Rococo Diaz de la Pena. Daw'r illusion d'optique nodweddiadol hwn o ail hanner y 1860au. Daeth golygfeydd felly yn boblogaidd iawn ymhlith casglwyr o Brydain ac America. Cafodd lliwiau cyfoethog a gwaith brws mynegiannol Monticelli effaith gref ar Van Gogh. Prynodd Gwendoline Davies y gwaith hwn ym 1913.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.