Casgliadau Celf Arlein
Halswell House, Gwlad yr Haf [Halswell House, Somerset]
RICHARDS, John Inigo (1731 - 1810)
Dyddiad: 1764
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 74.3 x 118.1 cm
Derbyniwyd: 1929; Rhodd; T.J. Coggins
Rhif Derbynoli: NMW A 510
Casgliad: Paentiadau Hanesyddol
Roedd Richards yn un o aelodau sylfaenol yr Academi Frenhinol a byddai'n arddangos yno'n rheolaidd. Ef oedd y prif beintiwr golygfeydd yn Covent Garden 1777-1803 a gwnaeth nifer o ddarluniau o dai bonedd. Cafodd Halswell ei adeiladu ar gyfer Syr Halswell Tynte ym 1689. Mae'r olygfa hon o'r tŷ a'r Parc yn cynnwys y deml Baladaidd gron a elwid y Rotunda, a rholiwr gardd a dynnid gan geffyl. Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif sylwodd un ymwelydd fel yr oedd y parc yn rhoi golygfa wych o'r 'Sianel...a Steep Holm yn codi'n falch o'r canol, a thu hwnt fynyddoedd Cymru yn codi y naill ar ôl y llall.' Ym 1740 etifeddwyd Halswell House gan Charles Kemeys-Tynte o Gefnmabli, Morgannwg.
sylw - (3)
I look forward to your reply.
I live nearby! And much enjoyed my visit to your museum last Sunday.