Paentiadau hanesyddol
Dathlodd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gaffaeliad Portread o William Herbert, Iarll Cyntaf Penfro gan Arlunydd Anhysbys o'r Ysgol Iseldirol (tua 1560–5), drwy ail-arddangos ein portreadau cynnar Cymreig eraill. Portreadau wedi eu paentio ar banelau pren yw y rhan fwyaf o'r paentiadau sydd wedi goroesi o'r unfed ganrif ar ddeg yng Nghymru. Yn bennaf, maent yn portreadu pobl gyfoethog, yn bendefigion ac yn uchelwyr. Roedd y modd gan y rhain i deithio i Lundain i gael tynnu eu portreadau gan artistiaid o'r Iseldiroedd a fewnfudodd yno ac a sefydlodd weithdai portreadau mawr yn y ddinas. Mae'r arddangosfeydd yn cynnwys y portreadau Catrin o Ferain (a adwaenid fel 'Mam Cymru' oherwydd ei phriodasau lluosog â'i chysylltodd â nifer o deuluoedd Cymreig pwysig) gan Adrian van Cronenburgh, a baentiwyd tramor tua 1568. Gwelir yma hefyd y portread dwbl Syr Thomas Mansel a'i wraig Jane, yn dangos nhw'n dal dwylo'n dyner, wedi ei ddyddio tua 1625, a'r darlun hudolus Portread o Philip Proger, gŵr llys yn cael ei bortreadu yn cario cenhinen, fel y byddai Cymry yn aml yn gwneud wrth ddathlu Gŵyl Ddewi yn y Llys yn Llundain.
Mae'r casgliadau hefyd yn cynnwys arddangosiad pwysig o fanddarluniau cynnar gan artistiaid fel Hilliard, Isaac Oliver a John Hoskins. Gellir cymharu'r paentiadau hyn i'r paentiadau a gynhyrchwyd ar draws Ewrop yn ystod yr unfed ganrif ar bytheg a'r ail ganrif ar bymtheg, yn cynnwys enghreifftiau ardderchog o waith Cima da Conegliano ac Amico Aspertini, a weithiai yn yr Eidal yn yr unfed ganrif ar bymtheg, paentiadau tirlun Ewropeaidd pwysig yr ail ganrif ar bymtheg yn cynnwys gweithiau gan Poussin, Claude, Van de Cappelle, Aelbert Cuyp a Jan Asselyn, a phaentiadau Gogledd Ewrop gan Rubens, Van Dyck, Frans Hals a Mathieu Le Nain.