Celf

Y Ferch o Baris

Y Lili Ddŵr

Syr Thomas Mansel a'i wraig Jane

Castell Dolbadarn

Gosteg


Darn canol bwrdd

Tebot a jwg
Croeso i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sy'n rhan o Amgueddfa Cymru. Dyma gartref casgliad cenedlaethol Cymru o gelf gain a chymhwysol. Dyma adnodd unigryw sy'n cofnodi hanes celfyddyd yng Nghymru ers yr 16eg ganrif ynghyd â chasgliad rhyngwladol pwysig o gelf Brydeinig ac Ewropeaidd. Mae'n cynnwys celfyddyd o ddiwylliannau eraill hefyd.
Sefydlwyd Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym 1907, ac mae'n cynnwys casgliad celf cyn-Amgueddfa Hanes Natur, Celf a Henebion Caerdydd, a ddechreuwyd ym 1882. Cartref cyntaf y casgliad oedd 11 o gelloedd yr heddlu a choridor yn Llysoedd Barn Caerdydd. Fe'i trosglwyddwyd i'r adeilad presennol yn y 1920au.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yng nghanol y Ddinas, ac mae'n cynnwys 15 o orielau sy'n adrodd hanes celf yng Nghymru ac Ewrop dros y 500 mlynedd diwethaf. Mae'n dangos gweithiau o'n casgliad cynyddol o weithiau celf fodern a chyfoes, a grëwyd gyda chymorth hael Ymddiriedolaeth Derek Williams, mewn arddangosfeydd newidiol.
Mae orielau eraill yn dangos rhaglen o arddangosfeydd arbennig sy'n darlunio, yn atgyfnerthu ac yn ategu'r casgliad parhaol. Crëir y rhan fwyaf o'r arddangosfeydd dros dro hyn o'n casgliadau ein hunain, ond rydyn ni'n ganolfan hefyd ar gyfer arddangosfeydd teithiol. Mae'r cyfleusterau eraill yn cynnwys Ystafell Astudio Printiau a Lluniau, lle gall ymwelwyr fwynhau detholiad o'n 28,000 o weithiau ar bapur trwy wneud apwyntiad ymlaen llaw. Mae gan yr Adran Gelf dair stiwdio cadwraeth a gweithdy fframio sy'n gofalu am y casgliad ac yn paratoi gweithiau i'w harddangos.
Ers canrifoedd, mae Cymru wedi ysbrydoli artistiaid o bob math - o beintwyr tirluniau i grefftwyr cyfoes. Mae Cymry wedi creu casgliadau celf nodedig, ac mae rhai ohonynt bellach wedi ffeindio cartref yn yr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Comisiynodd Syr Watkin Williams-Wynn (1749-1789) beintiadau, celfi a gwaith arian gan artistiaid a dylunwyr blaenllaw ei ddydd. Ein cymwynaswyr mwyaf hael oedd y chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies a roddodd eu casgliadau ysblennydd o gelf, oedd yn gyfoethog dros ben o safbwynt peintiadau a cherfluniau Ffrengig gan Millet, Rodin, Monet a Cézanne. Mae'r rhoddion eraill a gafwyd yn cynnwys casgliad porslen Ewropeaidd helaeth Wilfred Seymour De Winton a'r crochenwaith Cymreig dihafal a gyfrannwyd gan Ernest Morton Nance.
Dyma amcanion Adran Gelf Amgueddfa Cymru:
- astudio, casglu ac arddangos gwaith artistiaid a gwneuthurwyr Cymru, artistiaid sy'n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd neu a fu'n gweithio yma yn y gorffennol, ynghyd â'r bobl hynny gafodd eu hysbrydoli gan ei thirlun a'i diwylliant
- adrodd hanes noddi byd y celfyddydau yng Nghymru
- darlunio hanes celf gain a chymhwysol yng Nghymru
- gosod hanes celf gain a chymhwysol yng Nghymru yng nghyd-destun celfyddyd y Gorllewinol ers y Dadeni
- helpu ein hymwelwyr i ddeall a mwynhau celfyddyd pob diwylliant yn ddiwahân
- dehongli'r casgliad er budd amrywiaeth eang o ymwelwyr - y rhai sy'n byw yng Nghymru a'r rhai sy'n ymweld â hi, gan gynnwys grwpiau addysgol.
Dyma casgliad celf cenedlaethol Cymru. Mae'r casgliad yma i chi ei ddefnyddio, ei astudio a'i fwynhau — dim ots pwy ydych chi!