Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae 28,000 o weithiau ar bapur yn y casgliad Celf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae'r rhain yn cynnwys dyfrluniau, darluniau, printiadau, llyfrau brasluniau ac albymau. Casgliad cynhwysfawr yw hwn sy'n ymestyn o brintiadau gan Rembrandt a Picasso i ddyfrluniau gan Cézanne a Turner a darluniau gan Burne-Jones a David Nash. Ceir daliadau arbennig o helaeth o weithiau gan Augustus a Gwen John (dros 2,000 o weithiau), Graham Sutherland, David Jones a Ray Howard-Jones. Rhydd y rhain gyfle unigryw i weld dulliau gweithio yr arlunwyr hyn. Hefyd y mae gennym gasgliad mawr o olygfeydd topograffaidd o Gymru.
Mae gweithiau ar bapur yn hynod sensitif i'w hamgylchedd – mae gormod o oleuni yn achosi i liwiau bylu ac i bapur freuo. Hefyd, mae'r gweithiau yma yn rhy niferus ac yn rhy fregus i gael eu dangos yn barhaol. Cedwir hwy yn yr Ystafell Astudio Printiadau a Darluniau, lle rheolir yr hinsawdd. Mae arddangosfeydd dros dro blaenorol o weithiau ar bapur o'r casgliad wedi cynnwys Gwen John nas gwelwyd, Gweledigaethau Oes Fictoria, Taith Ddarluniadol Drwy Gymru a Chwaeth y Chwiorydd: Gweithiau ar bapur o gasgliad Davies.