Casgliadau Celf Arlein

Efa

RODIN, Auguste (1840 - 1917)

Dyddiad: 1881

Cyfrwng: efydd

Maint: 173.0 cm

Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies

Rhif Derbynoli: NMW A 2498

Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies

Dechreuodd Rodin y gwaith hwn fel un o bâr o ffigyrau mawr o Adda ac Efa ar ôl eu Cwymp. Bwriedid hwy i sefyll o bobtu ei waith efydd Pyrth Uffern a gomisiynwyd ym 1880 ar gyfer yr Ysgol Celfyddydau Addurnol ym Mharis. Mae osgo digalon Efa yn ein hatgoffa o waith marmor Michelangelo, Caethion, yn y Louvre. Eglurodd Rodin yr amgylchiadau pan roddwyd y gorau i'r ffigwr hwn: 'Heb wybod pam, gwelais fy model yn newid. Newidiais fy llinellau, gan ddilyn yn ddiniwed y ffurfiau hyn wrth iddynt drawsnewid a chwyddo. Un diwrnod, clywais ei bod yn feichiog...helpodd hynny gymeriad y ffigwr yn rhyfeddol...roedd y fodel yn gweld y stiwdio'n rhy oer; byddai'n dod yn llai aml, yna peidiodd yn llwyr. Dyna pam na chafodd fy Efa ei gorffen'. Ni arddangoswyd y ffigwr hwn yn y Salon hyd 1899, a chafodd ei osod ar y llawr heb stondin. Cafodd y gyfres efydd y mae'r gwaith hwn yn perthyn iddi ei chastio gan Alexis Rudier, a ddaeth yn fwriwr haearn i Rodin ym 1902. Cafodd ei brynu gan Gwendoline Davies ym 1916.

 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd