Casgliadau Celf Arlein
Gwerinwragedd Llydewig yn yr Offeren
SEGUIN, Armand (1869 - 1903)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 55.1 x 38.4 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2500
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Ganed Seguin yn Llydaw a chafodd ei hyfforddi ym Mharis. Ym 1889 ymunodd a chylch o arlunwyr o gwmpas Gauguin a elwid y Nabis, a o fis Ebrill 1891 ymlaen byddai'n aml yn gweithio yn Pont Aven. Mae'r darlun amlwg hwn, sydd wedi ei beintio'n denau tua dechrau'r 1890au, yn nodweddiadol o waith y Nabis, sy'n mynegi dilysrwydd a diffyg arferion soffistigedig gwerin Llydaw. Prynwyd hwn gan Gwendoline Davies ym 1916 fel gwaith gan Gauguin.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.