Casgliadau Celf Arlein
Aurora
CARRIÈRE, Eugène (1849 - 1906)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 38.7 x 62.0 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2435
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Yn ystod ei ieuenctid yn Strasbourg, cafodd Carriére ei hyfforddi mewn lithograffeg, ac ym 1897 enillodd wobr bwysig am ei waith graffig. Yn ystod y flwyddyn honno hefyd cynhyrchodd boster o ferch yn sefyll wrth ymyl ffynnon ar fynydd mewn niwl tonnog, ar gyfer y papur newydd L'aurore, a'r golygydd oedd ei gyfaill, Georges Clemenceau. Astudiaeth ragbaratoawl ar gyfer y lithograff hwnnw yw'r tirlun niwlog hwn gyda ffigrau'n croesawu'r wawr. Cafodd ei brynu gan Gwendoline Davies ym 1920.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.