Casgliadau Celf Arlein
Tirlun ym Mhrofens
CÉZANNE, Paul (1839 - 1906)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 81.2 x 65.7 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2438
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Ym 1886 daeth problemau ariannol Cézanne i ben pan etifeddodd swm sylweddol ar ôl marwolaeth ei dad. Mae'n debyg i'r astudiaeth hon o goedlan gael ei pheintio yn y Jas de Bouffan, ystâd y tu allan i Aix-en-Provence lle byddai'n aros yn aml i ofalu am ei fam.
Mae'r gwaith brws toredig croes-ymgroes, y gwrthgyferbynnu cynnil rhwng lliw a'r cydbwysedd rhwng cerfwedd ac effeithiau gofod yn nodweddiadol o waith Cézanne ar ddiwedd y 1880au. Tua diwedd ei fywyd, meddai: 'Mae llinellau sy'n cydredeg o'r gorwel yn rhoi lled...ond mae natur i ni ddynion yn fwy nag wyneb, a dyna pam mae angen cyflwyno dirgryniadau yn ein golau, yn cael eu cynrychioli gan goch a melyn, digon o las i roi syniad o'r awyr.' Prynodd Gwendoline Davies y gwaith hwn ym Mharis ym 1918.
sylw - (4)
Kind regards
Joanne brown
Dear Mike Carr,
Thank you very much much for bringing this issue to our attention; we have now fixed the link.
Best wishes,
Marc
Digital Team
We enjoyed it beyond expression.