Casgliadau Celf Arlein
Pen Dyn
DAUMIER, Honore (1808 - 1879)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 27.6 x 35.3 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2456
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Mae’r cymeriad unigryw hwn, sy’n edrych yn ôl dros ei ysgwydd dde, yn ymddangos mewn dau baentiad arall gan Daumier. Fe’i gwelir mewn golygfeydd o’r baricedau yn ystod chwyldro 1849. Prynodd y chwiorydd Davies ddarlun paratoadol o hwn hefyd. Mae’r llinellau a’r haen o liwiau yn fwy manwl yn y paentiad hwn o gymharu â’r gweddill, ac mae’n debyg y cafodd hwn ei beintio’n fwy diweddar.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.