Casgliadau Celf Arlein
Dyddiad: 1814
Cyfrwng: priddwaith
Maint: h(cm) : 14 x l(cm) : 15.3 x w(cm) : 13.2,h(cm) : 1
Derbyniwyd: 1953; Cymynrodd
Rhif Derbynoli: NMW A 30680
Casgliad: Casgliad Ernest Morton Nance
Cynhyrchwyd y jwg hwn i goffau Napoleon yn ildio grym ac yn cael ei alltudio ym 1814 i ynys Elba ar arfordir yr Eidal. Wedi’i arysgrifio am y canol mae 'BONAPARTE DETHRON'D April 1st 1814' (gan roi dyddiad ychydig ynghynt er mwyn iddo lanio ar ddydd Ffŵl Ebrill). Defnyddiwyd techneg printio troslun i addurno’r jwg â golygfa fyrlymus o ddynion a menywod yn dathlu cwymp Napoleon. Saif y gŵr ei hun mewn cadwynau yng nghanol y llun, yn aros i’r Diafol ei gasglu gan ochneidio 'Oh Cursed Ambition what hast thou brought me to Now'.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.