Arolwg Bioamrywiaeth Forol Cefnfor India
fel rhan o Raglen Beisfannau Capricorn
Bioamrywiaeth Fenthig
Yn ystod y deng mlynedd a aeth heibio mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi bod ynghlwm wrth y gwaith o asesu bywyd gwely'r môr (benthig) o amgylch arfordir Cymru.
Dengys y dystiolaeth yn ein cyhoeddiadau gwyddonol fod rhai ardaloedd tymherus (yn enwedig y gwaddodion graeanog ar wely'r môr) yn cynnal casgliadau o anifeiliaid di-asgwrn-cefn amrywiol iawn.
Mae hyn yn groes i nifer o astudiaethau sy'n datgan yn gyffredinol fod benthos y sgafell yn llai amrywiol na'r dyfnfor ac ardaloedd trofannol. Felly, mae taith ymchwil Beisfannau Capricorn yn darparu cyfle delfrydol i gasglu a chymharu amrywiaeth fenthig y trofannau â'n hastudiaethau o ddyfroedd tymherus.