Arolwg Bioamrywiaeth Forol Cefnfor India

fel rhan o Raglen Beisfannau Capricorn


Tacsonomeg

Mae gan

Adran Bioamrywiaeth a Bioleg Gyfundrefnol

(BioSyB) Amgueddfa Genedlaethol Cymru arbenigedd a gydnabyddir yn rhyngwladol yn nhacsonomeg a systemeg y Molysgiaid (Dr Graham Oliver) a'r Polycetiaid (Dr Andrew Mackie). Bwriadwn gasglu sbesimenau o'r ddau grŵp milodol drwy gasglu rhwng penllanw a distyll, samplu gyda chymorth offer crafangu, tyrchu a threillio wedi eu rheoli o Long Pysgodfeydd y Seychelles, a gan nofwyr tanddwr. Bydd Dr Mackie hefyd yn cydweithredu â'r Athro Westheide (Prifysgol Osnabr?ch, Yr Almaen), arbenigwr rhyngwladol ar fwydod gwrychog meiomilodol, sydd yn ymweld â'r Seychelles ar ei liwt ei hun ym mis Mawrth. Yn ogystal, bwriedir cydweithredu ag arbenigwyr ar "ffawna marw" (cregyn ac ati), sef Dr Martin Zuschin (Prifysgol Wien) a'r Athro Susan Kidwell (Prifysgol Chicago)

Nod cyntaf y gwaith yw llunio rhestr o'r rhywogaethau a ddarganfyddir. Yn dilyn astudiaethau mwy manwl, ymgymerir ag astudiaethau tacsonomig a chyhoeddir erthyglau gwyddonol mewn cylchgronau rhyngwladol cydnabyddedig. Bydd yr astudiaethau hyn hefyd yn helpu i wella ein dealltwriaeth (wael) o sŵoddaearyddiaeth mwydod gwrychog. Gallai'r Seychelles, ynysoedd wedi eu lleoli oddi ar arfordir dwyreiniol Affrica a de-orllewinol India, gynnig golwg werthfawr ar ddosbarthiad polycetiaid yng Nghefnfor India a'r ardaloedd Indo-Pasiffig yn benodol.

Caiff sbesimenau eu cadw yn rhan o'r casgliadau o folysgiaid a mwydod gwrychog yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd. Fodd bynnag, gwneir trefniadau i gyflwyno defnydd cynrychioliadol i ofal sefydliad addas yn y Seychelles yn y dyfodol.

Y mae ym meddiant AOCC gasgliadau a wnaed yn ystod cyfnod yr Ymerodraeth Brydeinig (y bedwaredd ganrif ar bymtheg) ac mae'r rhain yn cynnwys sbesimenau o Gefnfor India. Ymdrinnir â'r rhain mewn llyfrau a gyhoeddwyd bryd hynny ac mae nifer ohonynt yn ein llyfrgell. O'r herwydd mae AOCC yn gymwys i gydweithredu ac i helpu datblygu arbenigedd yn ardal Cefnfor India.