Arolwg Bioamrywiaeth Forol Cefnfor India

Rhaglen Beisfannau Capricorn

fel rhan o Raglen Beisfannau Capricorn


Y Cefndir

Bydd Amgueddfa Genedlaethol Cymru (AGC) yn ymgymryd ag astudiaethau sŵolegol morol yn y Seychelles dan nawdd Rhaglen Beisfannau Capricorn. Lansiwyd y rhaglen yn 1997, Blwyddyn Ryngwladol y Riff, gan y Gymdeithas Frenhinol a'r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol ar gais Llywodraethau Mauritius a'r Seychelles.

Amcan rhaglen y Beisfannau yw ymgymryd ag archwiliad manwl o adnoddau morol yr ynysoedd, banciau tywod a beisfannau Llwyfandir Mascarene, gan gydweithio â'r gwledydd a'n gwahoddodd i gasglu data, dadansoddi a dehongli'r darganfyddiadau er ehangu ein gwybodaeth o'r ardal, i gynorthwytho gyda'r gwaith o warchod a chynllunio'r adnodd morol, ac i alluogi cyfranogiad ac addysg pawb yn ymwneud â'r holl ddisgyblaethau sy'n seiliedig ar y môr.

Traeth

Cefnen Mascarene yw un o brif dirffurfiau tanfor rhan orllewinol Cefnfor India ac mae'n gweithredu fel "mur" gan rwystro symudiad ceryntau. Mae'r gefnen, rhwng Trofan Capricorn a'r cyhydedd, ar ffurf silff, wedi'i gorchuddio â 115,000km2 o fanciau tywod a beisfannau ar ddyfnder rhwng 33 a 90 m. Mae i'r silff ymyl bas ar ddyfnder o 8-20 m. Y tu hwnt i ddyfnder o 50 m mae wyneb y llwyfandir yn plymio, fel rheol, i dros 1,000 m.

Mangrove

Yng nghyd-destun astudiaethau gwyddonol morol mae'r gefnen yn un o'r llefydd hynny na wyddom y nesaf peth i ddim amdano. A chan na wyddom fawr ddim am y banciau tywod anghysbell hyn, amcangyfrifon yn unig yw arwynebedd y cwrel, y cefnennau algaidd a'r graig noeth, a phrin bod bioamrywiaeth yr ardal wedi'i hastudio o gwbl. At hyn, mae pysgodfeydd y dyfroedd bas, sy'n cael eu pysgota gan longau bach gyda chymorth mamlong, o bwys economaidd i'r Seychelles a Mauritius. Felly, mae gwir angen archwilio adeiledd y llwyfandir, ei ddylanwad ffisegol ar yr ardal, yr adnoddau sy'n cael eu cynnal ganddo, ynghyd â dylanwad dyn ar yr adnoddau hyn yn y gorffennol, heddiw ac yn y dyfodol.

Mangrove

Canolbwyntir archwiliadau Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar ein harbenigedd gwyddonol ym maes tacsonomeg ac asesu bioamrywiaeth fenthig.