Cwestiynau Cyffredin: Gadael rhodd yn eich ewyllys

Mae gadael rhodd i Amgueddfa Cymru yn eich ewyllys yn broses syml. Yma, rydyn ni’n darparu atebion i rai cwestiynau cyffredin.

Sut mae gadael rhodd i Amgueddfa Cymru yn fy ewyllys?

Er bod gadael rhodd i elusen yn eich ewyllys yn syml, rydyn ni’n argymell eich bod yn trafod eich dymuniadau gyda chyfreithiwr neu gynghorydd proffesiynol i sicrhau bod y geiriad yn glir ac yn gyfreithlon.

Yn gyntaf, rhaid i chi ofyn ychydig o gwestiynau pwysig i chi’ch hun:

Bydd yr atebion i’r cwestiynau hyn yn pennu’r geiriad yn eich ewyllys, a pha un a fydd angen i chi gynnwys Llythyr Dymuniadau ochr yn ochr â’ch ewyllys derfynol. Er y bydd eich cyfreithiwr yn gallu helpu gyda geiriad penodol, bydd angen yr wybodaeth ganlynol:

  • Enw llawn y sefydliad: Amgueddfa Cymru – National Museum Wales
  • Cyfeiriad cofrestredig: Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NP
  • Rhif elusen gofrestredig: 525774

Rydyn ni hefyd yn eich cynghori i drafod eich dymuniadau gyda’ch teulu wrth lunio eich ewyllys.

Mae gennyf ewyllys wedi’i hysgrifennu’n barod. A oes angen i mi ysgrifennu un newydd er mwyn gadael rhodd i Amgueddfa Cymru?

Os oes gennych ewyllys yn barod, gallwch wneud mân ddiwygiadau, gan gynnwys ychwanegu rhoddion i elusen, gan ddefnyddio Codisil. Dogfen syml yw hon a fydd yn cael ei chadw ochr yn ochr â’ch ewyllys. Dylech siarad â’ch cyfreithiwr neu gynghorydd proffesiynol i gael rhagor o wybodaeth.

Oes angen i mi roi gwybod i chi am rodd yn fy ewyllys?

Rydyn ni’n deall bod manylion eich ewyllys yn breifat ac nad oes rheidrwydd arnoch i ddweud wrthym am eich rhodd. Fodd bynnag, hoffem allu diolch i chi am ein cynnwys yn eich ewyllys, a thrafod yr effaith gadarnhaol y bydd eich cymynrodd yn ei chael. Os oes gennych ddiddordeb, byddem yn falch iawn o’ch gwahodd am ymweliad arbennig ag un o’n safleoedd, i gael cipolwg tu ôl i’r llenni ac i gyfarfod â rhai o’n harbenigwyr.

Os ydych chi’n ystyried gadael rhodd i safle, project neu adran benodol, yna mae’n bwysig eich bod yn siarad â ni fel ein bod ni’n gallu sicrhau y byddwn yn gallu gwireddu eich dymuniadau.

I roi gwybod am eich rhodd, cysylltwch â ni yma

Pa fath o rodd mae modd i mi ei gadael?

Mae pedwar math o rodd y mae modd eu gadael i ni:

  • Rhodd ariannol: Rhodd o swm penodol o arian.
  • Rhodd weddilliol: Y cyfan neu ganran benodol o ystad sy’n weddill ar ôl cymynroddion ariannol a phenodol.
  • Rhodd benodol: Rhodd o eitem benodol, er enghraifft, gwaith celf, dodrefn neu gyfranddaliadau. Mae’n bwysig bod y geiriad yn eich ewyllys yn disgrifio’r eitem neu’r ased yn glir er mwyn osgoi unrhyw ddryswch posibl.
  • Rhodd atchweliadol: Rhodd a adawyd i etifedd dewisedig, gan ganiatáu i berson arall gael defnydd ohono yn ystod ei oes. Er enghraifft, efallai yr hoffech adael eiddo i elusen, ond caniatáu i rywun ddefnyddio’r eiddo am weddill ei oes.

A oes modd i mi nodi sut yr hoffwn i’m rhodd gael ei gwario?

Rydyn ni’n deall bod llawer o bobl yn teimlo angerdd arbennig tuag at ryw agwedd ar ein gwaith neu un o’n hamgueddfeydd, ac felly’n dymuno bod eu rhodd yn adlewyrchu hynny; mae eich cymynrodd yn rhan o’ch gwaddol. Os oes gennych amodau neu ddymuniadau ynghlwm wrth eich cymynrodd, mae’n bwysig eich bod yn trafod eich dymuniadau gyda ni wrth ysgrifennu eich ewyllys fel ein bod ni’n gallu sicrhau y byddwn yn gallu gwireddu eich dymuniadau.

Cysylltwch â ni i drafod eich dymuniadau

A yw rhoddion elusennol yn gallu lleihau’r Atebolrwydd Treth Etifeddu ar fy ystad?

Elusen yw Amgueddfa Cymru; rydyn ni’n dibynnu ar haelioni ein cefnogwyr i barhau â’r gwaith a wnawn.

Mae rhoddion i elusennau wedi’u heithrio rhag treth etifeddu, sy’n golygu y gallai gadael rhodd i ni helpu i leihau eich atebolrwydd treth. Yn ogystal, os byddwch yn gadael 10% neu fwy o werth net eich ystad i elusen yn eich ewyllys, bydd eich ystâd yn gymwys i dreth etifeddu ar y gyfradd is o 36% yn hytrach na 40%.

Gan fod sefyllfa treth pawb yn wahanol, bydd eich cyfreithiwr neu gynghorydd proffesiynol yn gallu trafod y ffyrdd y gall rhoddion elusennol leihau treth etifeddu ar eich ystad.

A oes modd i mi adael gwrthrych neu eitem i Amgueddfa Cymru?

Dros y blynyddoedd, mae ein casgliadau wedi tyfu diolch i haelioni unigolion sy’n ein cofio wrth ystyried sut i drosglwyddo eu heiddo, ac am hyn, rydyn ni’n hynod ddiolchgar.

Os ydych chi’n berchen ar eitem sydd, yn eich barn chi, o bwysigrwydd cenedlaethol, efallai yr hoffech ei gadael i Amgueddfa Cymru fel rhodd benodol. Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn llunio eich ewyllys fel bod modd i ni sicrhau y byddwn yn gallu derbyn eich eitem a gofalu amdani yn unol â’ch dymuniadau.

Os ydych yn bwriadu gadael gwrthrych i Amgueddfa Cymru yn eich ewyllys, byddem yn ddiolchgar pe baech yn ystyried gadael rhodd ariannol neu atchweliadol i helpu gyda’r costau sydd ynghlwm wrth ofalu am y casgliad.

Cysylltwch â ni