7-8 Medi 2024

Newyddion

Mae cyrsiau coginio, coginio ar y cyd, a choctêls ar y fwydlen ar gyfer Gŵyl Fwyd Ddigidol Amgueddfa Cymru eleni

19 Gorffennaf 2021

Bydd Gŵyl Fwyd Digidol Amgueddfa Cymru yn dychwelyd am yr ail waith rhwng 6 a 12 Medi 2021. Mae’r digwyddiad digidol ar wefan a sianelau cyfryngau cymdeithasol yr Amgueddfa, yn cymryd lle yr wŷl fwyd sydd fel arfer yn cael ei chynnal yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru a bydd yn cynnwys cyfres o gyrsiau, sgyrsiau, digwyddiadau cerddorol ac arddangosiadau coginio cyffrous.  

Am wella eich sgiliau yn y gegin? Bydd yno amrywiaeth o gyrsiau coginio addas i bob oed, gan gynnwys cwrs patisserie gyda Thibauld Courtoisier, un o enillwyr Bake Off: The Professionals 2020, sesiwn goginio ar y cyd deuluol gyda Beca Lyne-Pirkis, a dosbarth meistr creu coctêls gyda chylchgrawn Blasus. Bydd y cogydd seren Michelin, Hywel Griffith, hefyd yn cyflwyno sesiwn goginio ar y cyd arbennig. 

Bydd marchnad rithiol yn digwydd ar Facebook gyda dros 40 o fusnesau bwyd a diod Cymreig yn arddangos eu cynnyrch unigryw drwy gydol yr wythnos.  

Mae Amgueddfa Cymru wedi cydweithio gyda Tafwyl a BBC Gorwelion unwaith eto i roi llwyfan i rai o dalentau cerddorol gorau Cymru mewn gig ar-lein arbennig ar ddydd Iau 9 Medi. Bydd Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru – pobl ifanc sy’n gweithio gyda’r Amgueddfa i lywio agweddau amrywiol ar waith y sefydliad – hefyd yn trefnu gig ar ddydd Mercher 8 Medi, gan gyflwyno rhai o gerddorion gorau sîn gerddorol Cymru. 

Bydd cyfres o sgyrsiau a thrafodaethau panel drwy’r wythnos yn trafod pynciau llosg y diwydiant, gan gynnwys bwydydd y byd a thueddiadau bwyd.  

Gall teuluoedd hefyd lawrlwytho pecyn adnoddau arbennig yn llawn gweithgareddau bwyd hwyliog i’w gwneud gartref.  

Dywedodd Mared Maggs, Pennaeth Digwyddiadau Amgueddfa Cymru:  

“Rydym yn adeiladu ar lwyddiant Gŵyl Fwyd Ddigidol y llynedd ac yn edrych ymlaen at gyflwyno rhaglen lawn arall o sgyrsiau, gweithgareddau, cyrsiau a gweithdai sy’n dathlu cynnyrch Cymreig arbennig ac yn rhoi llwyfan i fusnesau bwyd a diod Cymru arddangos eu talentau. Er taw siom yw methu cynnal y digwyddiad yn fyw o Sain Ffagan eleni, mae cyflwyno’r ŵyl ar-lein yn golygu y gallwn gyrraedd cynulleidfa ehangach ar draws Cymru a thu hwnt. Pleer hefyd yw croesawu ein partneriaid Tafwyl a BBC Gorwelion yn ôl er mwyn cyflwyno gig ar-lein arbennig i wylwyr fel rhan o’r rhaglen eleni.” 

Dywedodd Thibault Courtoisier o Pâtisserie Verteof, a fydd yn cynnal cwrs patisserie fel rhan o’r ŵyl:   

“Mae’n gyffrous i gael cynnal sesiwn goginio ar y cyd patisserie arbennig fel rhan o’r Ŵyl Fwyd Digidol. Mae’r cwrs yn addas i ddechreuwyr a phobyddion profiadol fel ei gilydd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu ein sgiliau patisserie gyda phobyddion ar draws Cymru a thu hwnt.” 

Dywedodd Little Grandma’s Kitchen, fydd yn cymryd rhan ym marchnad rithiol yr ŵyl:  

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y farchnad rithiol unwaith eto eleni. Mae’n ffordd wych i ni gyrraedd ein cwsmeriaid presennol ac i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.”  

Digwyddiad rhad ac am ddim yw Gŵyl Fwyd Ddigidol Amgueddfa Cymru, ond rhaid prynu tocyn i rai digwyddiadau. 

Bydd Gŵyl Fwyd Ddigidol Amgueddfa Cymru yn digwydd rhwng 6-12 Medi. I weld rhaglen lawn yr ŵyl, ewch i’r wefan.  

⁠Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i'r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau. 

Enillodd un o amgueddfeydd y teulu, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, sy'n trafod hanes a diwylliant Cymru, wobr ⁠Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn 2019

Fel elusen gofrestredig, rydyn ni'n gwerthfawrogi pob cefnogaeth. ⁠Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People's Postcode Lottery.