7-8 Medi 2024

Newyddion

Bwyd stryd, danteithion melys a stondinau lu yn Sain Ffagan wrth i ŵyl fwyd flynyddol Amgueddfa Cymru ddychwelyd

12 Mehefin 2023

Yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i lawer, mae Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn dychwelyd i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar 9 a 10 Medi, gyda gwledd o stondinau bwyd, cerddoriaeth a hwyl i’r teulu cyfan.

Bydd yr Amgueddfa yn dod yn fyw gyda thros 80 o stondinau bwyd, diod a chrefft i’w mwynhau o amgylch yr adeiladau hanesyddol. 

Bydd cerddoriaeth fyw ar ddau lwyfan gan lu o dalentau Cymru wedi’u curadu gan Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru, Llwyfan Newydd, Gorwelion BBC a Tafwyl. 

Caiff rhai o weithgareddau’r penwythnos eu noddi gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery. O wneud menyn i ddysgu am fasgedi siopa pobl ganrif yn ôl, gall ymwelwyr fwynhau mynd yn ôl mewn amser yn rhai o adeiladau eiconig yr Amgueddfa. Cynhelir digwyddiadau i’r teulu mewn amryw leoliadau ar draws yr amgueddfa, o ddangosiadau coginio yn yr adeiladau hanesyddol i sesiynau sgiliau syrcas – bydd digon i gadw’r rhai bach yn brysur! 

O brydau traddodiadol Cymru i fwyd stryd blasus, dyma rai o’r stondinau fydd yma i’ch temtio:

Austringer Cider, Babita’s Spice Deli, Bao Selecta, Gin Tin Bar, Green Beans, Hello Good Pie, Ice Green, Minto’s Patisserie, Mr Croquewich, Quantum Coffee Roasters, Rickshaw Rodeo, The Pudding Wagon, The Real Ting, Welsh Gluten Free Bakery Products, a llawer mwy. 

 

Dywedodd Mared Maggs, Pennaeth Digwyddiadau Amgueddfa Cymru: 

“Mae’r ŵyl fwyd yn un o ddigwyddiadau mwyaf y flwyddyn i Amgueddfa Cymru, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddathlu gwledd o gynhyrchwyr Cymreig a thalent amrywiol o bob cwr o Gymru. Gall ymwelwyr ddisgwyl bwyd bendigedig, cerddoriaeth wych a digonedd o weithgareddau i bawb.”

“Diolch i chwaraewyr y People’s Postcode Lottery am gefnogi’r gweithgareddau i’r teulu fel rhan o’r ŵyl.”

Bydd yr Amgueddfa ar agor tan 6pm ar y ddau ddiwrnod, er mwyn i ymwelwyr wneud y mwyaf o’r ŵyl.
 

Mae mynediad am ddim i Sain Ffagan a pharcio yn costio £6. ⁠ Mae manylion llawn ar wefan Gŵyl Fwyd | Amgueddfa Cymru