Gŵyl Fwyd Sain Ffagan - Newyddion Diweddaraf
12-13 Medi 2026
Rydym yn ymwybodol bod 'na negeseuon yn ymddangos ar wefannau cymdeithasol yn hysbysebu stondinau masnachol mewn digwyddiadau yn Sain Ffagan. Fe fydd unrhyw wybodaeth am gyfleoedd masnachol yn dod yn uniongyrchol o dudalennau swyddogol yr Amgueddfa. Os ydych yn dod ar draws un o’r negeseuon yma fe ofynnwn yn garedig i chi ei hadrodd yn syth i Meta.
Sgyrsiau, arddangosiadau a cherddoriaeth fyw - Mae rhaglen yr Ŵyl Fwyd ar-lein!
14 Gorffennaf 2023
Mae rhaglen Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru nawr ar-lein!
Ymunwch â ni am benwythnos o fwyd blasus, arddangosiadau a cherddoriaeth fyw ar 9 a 10 Medi.
Dewch i gwrdd â'r gwenynwyr, dysgu sgiliau syrcas, darganfod mwy am fwyd drwy'r oesau, a llawer mwy! Mae rhywbeth at ddant pawb! Mwy o wybodaeth.
Eisiau bod y cyntaf i glywed am yr holl fandiau, gweithgareddau a masnachwyr bwyd gwych? Cofrestrwch a byddwch hefyd yn cael côd gostyngiad o 10% i'w ddefnyddio yn Siop yr Amgueddfa yn Sain Ffagan.