Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Rydym yn ymwybodol bod 'na negeseuon yn ymddangos ar wefannau cymdeithasol yn hysbysebu stondinau masnachol mewn digwyddiadau yn Sain Ffagan. Fe fydd unrhyw wybodaeth am gyfleoedd masnachol yn dod yn uniongyrchol o dudalennau swyddogol yr Amgueddfa. Os ydych yn dod ar draws un o’r negeseuon yma fe ofynnwn yn garedig i chi ei hadrodd yn syth i Meta.
Mae'r Ŵyl Fwyd ychydig dros fis i ffwrdd ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi'r stondinau bwyd blasus a fydd yn ymuno â ni ar 9 a 10 Medi. O pizza i tacos, toesenni i hufen iâ - bydd rhywbeth at ddant pawb! Mae yna hefyd ddigon o opsiynau ar gyfer prydau llysieuol, fegan a bwydydd heb glwten.
Ewch draw i'r Farchnad Fwyd am gacennau, cyffeithiau, cawsiau a llawer mwy. Bydd dros 40 o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru i chi eu darganfod.
Bydd ein stondinau Bwyd Stryd wedi eu rhannu i ddwy ardal wahanol - Tanerdy a Cilewent. Cewch ddewis o amrywiaeth o fwydydd o wahanol wledydd ar draws y byd, o fwydydd Cymreig traddodiadol i pizza, byrgyr, bwydydd fegan, Mecsicanaidd, Indiaidd, a llawer mwy.
Cymerwch olwg ar y rhestr o stondinau.