Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Disgrifiwch eich cwmni mewn un frawddeg.
Cynhyrchwyr brownis godidog.
Beth ydych chi’n angerddol amdano yn eich busnes? Beth sy’n eich ysgogi chi?
Rydyn ni’n ymdrechu bob tro i gynhyrchu danteithion cofiadwy mae pobl eisiau eu blasu dro ar ôl tro. Mae’n hyfryd cael cwsmeriaid sy’n dychwelyd – dyna sy’n ein ysgogi i ddal ati. Mae’n ein gwneud ni’n hapus pan fydd rhywun wedi mwynhau’r hyn rydyn ni wedi’i wneud.
Beth yw’r cyngor gorau rydych chi wedi ei dderbyn?
Daliwch ati, mae popeth bob amser yn cymryd mwy o amser na’r disgwyl!
Ydych chi’n gweld unrhyw dueddiadau newydd yn dod i'r amlwg yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru?
Llawer o gynhyrchwyr bach.
Pa gynhyrchwyr bwyd a diod eraill o Gymru sy’n eich cyffroi a’ch ysbrydoli ar hyn o bryd?
Da Mhile, Caws Cenarth.
Pe bai’n rhaid i chi fwyta un math o fwyd yn unig am weddill eich oes, beth fyddech chi’n ei ddewis?
Rhy anodd dewis! Dim ond un...
Rydych chi’n trefnu gwledd arbennig i westeion o’ch dewis chi. Pwy fyddech chi’n eu gwahodd?
Mumford and Sons
Sut gall pobl ddarganfod mwy am eich busnes a’ch cynnyrch?
Gallwch fynd i’n tudalen Instagram @thepuddingwagon neu ewch draw i’n gwefan www.thepuddingwagon.co.uk. Mae gennym hefyd gylchlythyr i gofrestru ar ein gwefan sy’n rhoi gwybod i chi am flasau newydd a digwyddiadau i ddod.