7-8 Medi 2024

Newyddion

BSL yn yr Ŵyl Fwyd

22 Awst 2023

Rydym am i’r Ŵyl Fwyd fod yn brofiad croesawgar a phleserus i bawb. Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd rhaglen Iaith Arwyddo Prydain (BSL) yng Ngŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru eleni. 

 

Bydd cyfieithwyr ar y pryd symudol ar gael yn y digwyddiad i dywys ymwelwyr B/byddar o amgylch yr ŵyl, mynychu gweithdai gyda nhw, ac i'w helpu i archebu bwyd a diod. Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu gan gyfieithwyr ar y pryd cwbl gymwysedig a rhai cyfieithwyr ar y pryd dan hyfforddiant / gweithwyr cymorth cyfathrebu. 

 

Bydd rhai gweithgareddau a pherfformiadau yn cael eu cynnal a'u perfformio gan hwyluswyr a pherfformwyr byddar: 

 

 

Bydd hefyd ardal yn y prif adeilad lle gall y gymuned B/byddar gyfarfod i gymdeithasu a gweld beth sy'n digwydd yn yr ŵyl. 

 

Awyddus i ddysgu BSL? Dewch i un o’r sesiynau blasu. 

Does dim ots os mai ychydig neu ddim gwybodaeth flaenorol o BSL sydd gennych chi, mae'r sesiynau rhyngweithiol ac anffurfiol hyn wedi'u cynllunio i groesawu pob oedran a lefel sgil. Nid oes angen i chi archebu ymlaen llaw, dim ond troi i fyny ar yr amser cychwyn penodedig ac ymuno! 

 

Trowch at ein canllaw hygyrchedd am fwy o wybodaeth am y digwyddiad a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl i'ch helpu i gynllunio.