Gŵyl Fwyd Sain Ffagan - Newyddion Diweddaraf
12-13 Medi 2026
Rydym yn ymwybodol bod 'na negeseuon yn ymddangos ar wefannau cymdeithasol yn hysbysebu stondinau masnachol mewn digwyddiadau yn Sain Ffagan. Fe fydd unrhyw wybodaeth am gyfleoedd masnachol yn dod yn uniongyrchol o dudalennau swyddogol yr Amgueddfa. Os ydych yn dod ar draws un o’r negeseuon yma fe ofynnwn yn garedig i chi ei hadrodd yn syth i Meta.
Cerddoriaeth Fyw
4 Medi 2023
Rydym yn falch i gyhoeddi’r artistiaid a fydd yn perfformio yn ystod Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru eleni!
Fe fydd dau lwyfan - un yng nghae Cilewent a’r llall ar lawnt Gwalia.
Mae’r gerddoriaeth wedi’i churadu gan BBC Gorwelion, Tafwyl, Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru (Bloedd) a Llwyfan Newydd. Gallwch ddisgwyl llu o dalent newydd Cymreig.
Mae ‘na siawns wnewch chi ddod o hyd i’ch hoff fand newydd!