Gŵyl Fwyd Sain Ffagan - Newyddion Diweddaraf

12-13 Medi 2026

Rydym yn ymwybodol bod 'na negeseuon yn ymddangos ar wefannau cymdeithasol yn hysbysebu stondinau masnachol mewn digwyddiadau yn Sain Ffagan. Fe fydd unrhyw wybodaeth am gyfleoedd masnachol yn dod yn uniongyrchol o dudalennau swyddogol yr Amgueddfa. Os ydych yn dod ar draws un o’r negeseuon yma fe ofynnwn yn garedig i chi ei hadrodd yn syth i Meta.

Mae rhaglen Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru nawr ar-lein!

18 Gorffennaf 2024

Mae Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru ar y gweill ac mae'r rhaglen nawr yn fyw ar ein gwefan i chi dechrau cynllunio eich penwythnos. 


Ymunwch â ni ar 7 a 8 Medi yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru am ddeuddydd llawn bwydydd blasus, cerddoriaeth byw, arddangosiadau coginio a hwyl i’r holl deulu.


Camwch yn ôl mewn amser a darganfod mwy am fwydydd trwy’r oesoedd, dysgwch sgiliau syrcas, gwrandewch ar gerddoriaeth byw ar Lawnt Gwalia, neu rhowch gynnig ar gorddi menyn. 
Bydd rhywbeth at ddant pawb! 


Cymerwch olwg ar y rhaglen ar ein gwefan

Gadewch i ni wybod eich bod yn dod i'r digwyddiad ac ymunwch â’n restr bostio i gael y newyddion diweddaraf am yr Ŵyl Fwyd. Fel diolch, cewch 10% i ffwrdd yn siop yr Amgueddfa yn ystod penwythnos yr ŵyl.