Gŵyl Fwyd Sain Ffagan - Newyddion Diweddaraf

12-13 Medi 2026

Rydym yn ymwybodol bod 'na negeseuon yn ymddangos ar wefannau cymdeithasol yn hysbysebu stondinau masnachol mewn digwyddiadau yn Sain Ffagan. Fe fydd unrhyw wybodaeth am gyfleoedd masnachol yn dod yn uniongyrchol o dudalennau swyddogol yr Amgueddfa. Os ydych yn dod ar draws un o’r negeseuon yma fe ofynnwn yn garedig i chi ei hadrodd yn syth i Meta.

BSL

Rhaglen BSL

15 Awst 2024

Rydym yn falch i ddweud fe fydd rhaglen BSL yr Ŵyl Fwyd yn dychwelyd eleni.

  
Fe fydd Ardal Byddar ar gael. Bydd hwn yn amlwg ar fap yr ŵyl. Fe fydd cyfieithwyr ar y pryd symudol ar gael yn y digwyddiad i dywys ymwelwyr B/byddar o amgylch yr ŵyl,  ac i'w helpu i archebu bwyd a diod.


Bydd hefyd hwylusydd crefftau byddar yno ar ddau ddiwrnod i helpu chi creu pethau hyfryd i fynd adref efo chi. 


Bydd hefyd sesiynau cyflwyniad i Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i’r rai sydd eisiau dysgu bach o BSL. 

Cymerwch olwg ar y rhaglen lawn i weld pa weithgareddau arall sydd ar gael yn ystod y penwythnos.

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i Sain Ffagan ar 7 a 8 Medi.