Gŵyl Fwyd Sain Ffagan - Newyddion Diweddaraf
12-13 Medi 2026
Rydym yn ymwybodol bod 'na negeseuon yn ymddangos ar wefannau cymdeithasol yn hysbysebu stondinau masnachol mewn digwyddiadau yn Sain Ffagan. Fe fydd unrhyw wybodaeth am gyfleoedd masnachol yn dod yn uniongyrchol o dudalennau swyddogol yr Amgueddfa. Os ydych yn dod ar draws un o’r negeseuon yma fe ofynnwn yn garedig i chi ei hadrodd yn syth i Meta.
Cerddoriaeth Fyw
5 Awst 2024
Rydym yn falch i gyhoeddi’r artistiaid a fydd yn perfformio yn ystod Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru eleni!
Mae’r gerddoriaeth wedi’i churadu gan Bloedd a Llwyfan Newydd. Ewch draw i Lawnt Gwalia i fwynhau detholiad eang o gerddoriaeth gan artistiaid Cymreig.
Cymerwch olwg ar raglen yr ŵyl am wybodaeth am yr holl weithgareddau a stondinau a fydd ar gael yn ystod y penwythnos.
Gadewch i ni wybod eich bod yn dod i'r digwyddiad ac ymunwch â’n restr bostio i gael y newyddion diweddaraf am yr Ŵyl Fwyd. Fel diolch, cewch 10% i ffwrdd yn siop yr Amgueddfa yn ystod penwythnos yr ŵyl.