Gŵyl Fwyd Sain Ffagan - Newyddion Diweddaraf
12-13 Medi 2026
Rydym yn ymwybodol bod 'na negeseuon yn ymddangos ar wefannau cymdeithasol yn hysbysebu stondinau masnachol mewn digwyddiadau yn Sain Ffagan. Fe fydd unrhyw wybodaeth am gyfleoedd masnachol yn dod yn uniongyrchol o dudalennau swyddogol yr Amgueddfa. Os ydych yn dod ar draws un o’r negeseuon yma fe ofynnwn yn garedig i chi ei hadrodd yn syth i Meta.
Gwobrau Cynaliadwyedd Stondinwyr
10 Medi 2024
Llongyfarchiadau i Conscious Coffee (The Safe Foundation) a The Welsh Saucery; enillwyr ein Gwobrau Cynaliadwyedd Stondinwyr yn y categoriau Bwyd Stryd a Marchnad Fwyd.
Mae Conscious Coffee wedi gweithio'n galed i leihau gwastraff gan greu dalwyr cwpanau coffi eu hunain o ddeunydd sydd wedi'i ailgylchu. Maen nhw hefyd yn defnyddio paneli solar i bweru golau yn eu fan coffi.
Mae The Welsh Saucery yn cwmni BCorp sydd wedi gwneud llwyth o waith i leihau effaith eu busnes ar yr amgylchedd, gan gynnwys lleihau gwastraff, ail-ddefnyddio poteli a jariau, plannu coed a defnyddio 100% o gynnyrch lleol.
Llongyfarchiadau hefyd i Pettigrew Bakeries, Bao Selecta, Tetrim Teas, Dragon Wales and Drop Bear Beer Co. a dderbyniodd canmoliaeth uchel am eu mentrau cynaliadwyedd.