Gŵyl Fwyd Sain Ffagan - Newyddion Diweddaraf

12-13 Medi 2026

Rydym yn ymwybodol bod 'na negeseuon yn ymddangos ar wefannau cymdeithasol yn hysbysebu stondinau masnachol mewn digwyddiadau yn Sain Ffagan. Fe fydd unrhyw wybodaeth am gyfleoedd masnachol yn dod yn uniongyrchol o dudalennau swyddogol yr Amgueddfa. Os ydych yn dod ar draws un o’r negeseuon yma fe ofynnwn yn garedig i chi ei hadrodd yn syth i Meta.

Newyddion

Torf o bobl yn eistedd ar lawnt Gwalia yn ystod yr ŵyl fwyd

Mae Gŵyl Fwyd Sain Ffagan yn dychwelyd!

13 Mehefin 2025

Bydd Gŵyl Fwyd Sain Ffagan yn dychwelyd ar 13 a 14 Medi, gyda gwledd o stondinau bwyd, cerddoriaeth a hwyl i’r teulu cyfan.


Bydd yr Amgueddfa yn dod yn fyw gyda thros 70 o stondinau bwyd, diod a chrefft i’w mwynhau. 


O wneud menyn i ddysgu am fasgedi siopa pobl ganrif yn ôl, gall ymwelwyr fwynhau mynd yn ôl mewn amser yn rhai o adeiladau eiconig yr Amgueddfa. Cynhelir gweithgareddau mewn amryw leoliadau ar draws yr amgueddfa, o ddangosiadau coginio yn yr adeiladau hanesyddol i sesiynau sgiliau syrcas. Caiff rhai o weithgareddau’r penwythnos eu noddi gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.


O brydau traddodiadol Cymru i fwyd stryd flasus, bydd rhywbeth at ddant pawb! 


Bydd yr Amgueddfa ar agor tan 6pm ar y ddau ddiwrnod, er mwyn i ymwelwyr wneud y mwyaf o’r ŵyl.


Mae mynediad am ddim i Sain Ffagan. 

Gadewch i ni wybod eich bod yn dod i'r digwyddiad ac ymunwch â’n restr bostio i gael y newyddion diweddaraf am yr Ŵyl Fwyd. Fel diolch, cewch 10% i ffwrdd yn siop yr Amgueddfa yn ystod penwythnos yr ŵyl.