Gŵyl Fwyd Sain Ffagan - Newyddion Diweddaraf

12-13 Medi 2026

Rydym yn ymwybodol bod 'na negeseuon yn ymddangos ar wefannau cymdeithasol yn hysbysebu stondinau masnachol mewn digwyddiadau yn Sain Ffagan. Fe fydd unrhyw wybodaeth am gyfleoedd masnachol yn dod yn uniongyrchol o dudalennau swyddogol yr Amgueddfa. Os ydych yn dod ar draws un o’r negeseuon yma fe ofynnwn yn garedig i chi ei hadrodd yn syth i Meta.

Newyddion

Rhaglen BSL yn yr Ŵyl Fwyd

23 Gorffennaf 2025

Rydym yn falch i gyhoeddi bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd Iaith Arwyddion Prydain (British Sign Language / BSL) ar gael yn yr yn yr ŵyl fwyd eleni.

Mae cyfieithwyr ar y pryd symudol ar gael yn y digwyddiad i dywys ymwelwyr B/byddar o amgylch yr ŵyl, mynychu gweithdai gyda nhw, ac i'w helpu i archebu bwyd a diod. Gellir archebu cyfieithwyr ar y pryd symudol ar y diwrnod o'r babell cyfieithwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yng Nghae Cilewent.

Bydd rhai gweithgareddau yn cael eu cynnal gan hwyluswyr a pherfformwyr byddar - gan gynnwys theatr stryd, gweithdai crefft, sesiynau yn Ardal Bwyd Da Caerdydd a thaith dywys o amgylch rhai o adeiladau hanesyddol yr Amgueddfa.

Cymerwch olwg ar raglen yr ŵyl am ragor o wybodaeth. 

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu chi i Sain Ffagan ar 13 a 14 Medi.