Gŵyl Fwyd Sain Ffagan - Newyddion Diweddaraf

12-13 Medi 2026

Newyddion

Bwyd Fegan a ‘Rhydd Rhag’

26 Awst 2025

Mae Gŵyl Fwyd Sain Ffagan ar y gweill! Gyda dros 70 stondin bwyd, diod a chrefft, bydd rhywbeth at ddant pawb, gan gynnwys digonedd o opsiynau fegan a ‘rhydd rhag’.  

 

Fegan  

Pizza Ffwrnes  - Un o’u pizzas blasus yw’r Marinara fegan - saws tomato, garlleg, oregano, basil ac olew olewydd.    

Mr Croquewich - Brechdanau caws wedi’u grilio, yn cynnwys un gyda chaws fegan a siytni winwns coch.   

Franks – Selsig fegan blasus gan Franks Hot Dogs 

Wicked Berry – Awydd rhywbeth melys? Mae Wicked Berry yn cynnig hufen ia siocled fegan.  

Patisserie Verte – danteithion patisserie fegan  

 

Heb Glwten  

El Cabron Tacos – Chwilio am fwyd Mecsicanaidd? Mae holl gynnyrch El Cabron Tacos heb glwten na chnau. 

FudgePots – Popeth heb glwten ac yn addas i lysieuwyr 

Good & Proper Brownies – brownis blasus heb glwten  

2Greedy Catering – Mae’r cwmni yn gwerthu detholiad o gacennau a bwydydd sawrus heb glwten  

The Real Ting – Mwynhewch gyri bwmpen gan The Real Ting. Cyri fegan heb glwten. 

 

Di-alcohol  

Dirwest – cwrw a jin di-alcohol, heb glwten ac yn addas i feganiaid 

 

Dyma ddetholiad bach o’r stondinau bydd yn gwerthu bwydydd blasus yn yr Ŵyl Fwyd eleni. Ewch i’r rhestr lawn am ragor o fanylion.