Gŵyl Fwyd Sain Ffagan - Newyddion Diweddaraf

12-13 Medi 2026

Rydym yn ymwybodol bod 'na negeseuon yn ymddangos ar wefannau cymdeithasol yn hysbysebu stondinau masnachol mewn digwyddiadau yn Sain Ffagan. Fe fydd unrhyw wybodaeth am gyfleoedd masnachol yn dod yn uniongyrchol o dudalennau swyddogol yr Amgueddfa. Os ydych yn dod ar draws un o’r negeseuon yma fe ofynnwn yn garedig i chi ei hadrodd yn syth i Meta.

Newyddion

Gwaith celf porffor yn rhestri'r bandiau a fydd yn chwarae yn Wyl Fwyd Sain Ffagan

Cerddoriaeth Fyw

29 Awst 2025

Pythefnos i fynd tan Ŵyl Fwyd Sain Ffagan. 

Yn ogystal â detholiad gwych o stondinau bwyd a diod, fe fydd cerddoriaeth byw ar draws yr Amgueddfa.
 
Mae Bloedd yn cymryd yr awenau gyda'r gerddoriaeth fyw eto eleni, gan guradu cymysgedd o berfformiadau pop-yp a chrwydrol o wahanol genres ar draws safle'r ŵyl.
 
Gyda setiau annisgwyl yn adeiladau hanesyddol yr Amgueddfa a churiadau'n tywallt allan o bob cornel, paratowch i ddarganfod cymysgedd bywiog o artistiaid newydd Cymreig wrth i chi grwydro o gwmpas yr ŵyl.
 
Gadewch i ni wybod eich bod yn dod i'r digwyddiad ac ymunwch â’n restr bostio i gael y newyddion diweddaraf am yr Ŵyl Fwyd. Fel diolch, cewch 10% i ffwrdd yn siop yr Amgueddfa yn ystod penwythnos yr ŵyl.