Gŵyl Fwyd Sain Ffagan - Newyddion Diweddaraf
12-13 Medi 2026
Newyddion
Gwasanaeth Bws
9 Medi 2026
Beth am adael y car gartref a theithio i'r Ŵyl Fwyd ar y bws?
Diolch i gyllid gan Gyngor Caerdydd bydd Cardiff Bus yn darparu gwasanaeth bws ychwanegol ar gyfer Ŵyl Fwyd Sain Ffagan.
Fe fydd dau wasanaeth bws ar ddydd Sadwrn 12 Medi. Bydd y bysiau ychwanegol yn gadael yr amgueddfa am 3.30pm a 4.45pm. Bydd y ddau fws am ddim!
Ar ddydd Sul 13 Medi bydd gwasanaeth bws am ddim rhwng Caerdydd a Sain Ffagan o 9am. Bydd y bws olaf yn gadael yr amgueddfa am 3.45pm.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cardiff Bus.