Gŵyl Fwyd Sain Ffagan - Newyddion Diweddaraf
12-13 Medi 2026
Rydym yn ymwybodol bod 'na negeseuon yn ymddangos ar wefannau cymdeithasol yn hysbysebu stondinau masnachol mewn digwyddiadau yn Sain Ffagan. Fe fydd unrhyw wybodaeth am gyfleoedd masnachol yn dod yn uniongyrchol o dudalennau swyddogol yr Amgueddfa. Os ydych yn dod ar draws un o’r negeseuon yma fe ofynnwn yn garedig i chi ei hadrodd yn syth i Meta.
Newyddion
Yr holl bethau pwysig sydd angen i chi eu gwybod cyn Gŵyl Fwyd Sain Ffagan
10 Medi 2026
Os ydych chi'n ymuno â ni ar gyfer Gŵyl Fwyd Sain Ffagan ar 12 a 13 Medi, dyma rai pethau pwysig i'w gwybod cyn eich ymweliad.
Cwpanau amldro
Byddwn yn defnyddio cwpanau ailddefnyddiadwy ar ein bariau eto eleni. Bydd angen i chi dalu £1 am eich cwpan cyntaf ac yna byddwch yn cael cwpan glân wrth y bar pan fyddwch yn archebu eich diod nesaf. Gallwch fynd â'r cwpan adref gyda chi fel cofrodd, neu gallwch ddewis ei roi yn ôl i'r amgueddfa trwy ei adael yn un o'n biniau dynodedig.
Poteli Dŵr
Peidiwch ag anghofio dod â'ch potel ddŵr gyda chi i'r amgueddfa. Mae digon o orsafoedd dŵr i chi eu llenwi. Gallwch ddod o hyd i'r holl bwyntiau dŵr ar fap yr ŵyl.
Map
Mae map yr ŵyl bellach ar-lein i chi gynllunio'ch ymweliad. Mae'r map yn cynnwys yr holl wybodaeth bwysig gan gynnwys lleoliad stondinau bwyd a diod, gweithgareddau, tapiau dŵr a thoiledau.
Gwybodaeth teithio
Rydym yn disgwyl i'r maes parcio fod yn brysur ar gyfer y digwyddiad hwn felly rhannwch geir lle gallwch. Parchwch ein cymdogion a pheidiwch â pharcio ym mhentref Sain Ffagan nac ar y ffyrdd cyfagos.
Diolch i Gyngor Caerdydd a Cardiff Bus, bydd gwasanaeth ychwanegol i'ch helpu i fynd yn ôl ac ymlaen i'r ŵyl. Bydd dau wasanaeth ychwanegol ddydd Sadwrn 12 Medi gyda bysiau'n gadael yr amgueddfa ac yn teithio i Gaerdydd am 3.30pm a 4.45pm. Bydd teithio ar y gwasanaeth ychwanegol am ddim!
Ar ddydd Sul 13 Medi bydd gwasanaeth bws am ddim yn rhedeg rhwng Sain Ffagan a Chaerdydd gyda'r bws olaf yn gadael yr amgueddfa am 3.45pm.
Taliadau Cerdyn
Bydd pob stondinwr yn derbyn taliadau cerdyn ond mae'n syniad da dod â rhywfaint o arian parod rhag ofn eich bod chi eisiau prynu nwyddau o Fecws Derwen. Nid oes peiriant arian parod yn yr amgueddfa felly cynlluniwch ymlaen llaw.
Gallwch ddod o hyd i'r rhestr lawn o stondinau yma. Peidiwch ag anghofio edrych ar ein rhaglen lawn o weithgareddau.
Mae mynediad i'r ŵyl am ddim. Mae parcio yn costio £7 drwy'r dydd.