Digwyddiad: Cerddoriaeth Fyw
Lleoliad: Lawnt Gwalia (22)
Bloedd a Llwyfan Newydd (New Heights) sy'n curadu'r gerddoriaeth ar Lwyfan Gwalia!
Helo, Neo ydw i, rwy'n gerddor ac yn hyrwyddwr ifanc ar gyfer Gŵyl Fwyd eleni. Rydw i wedi mwynhau gweithio gyda Bloedd a Llwyfan Newydd (New Heights) i guradu'r lein-yp eleni, sy'n gymysgedd o artistiaid Cymraeg newydd, synau arbrofol a hud MOBO. Rwy'n gyffrous i weld sut y bydd popeth yn dod at ei gilydd ym mis Medi!
Mae prosiect Llwyfan Newydd (New Heights) yn hyrwyddo cynrychiolaeth ehangach o gymunedau amrywiol mewn lleoliadau treftadaeth, gan gynnal nosweithiau sy’n arddangos cerddorion, pobl greadigol a pherfformwyr MOBO Cymru.
Bloedd yw rhaglen gydweithredol Amgueddfa Cymru i bobl ifanc, gan gynnig cyfleoedd ac ymgysylltu gyda phobl ifanc ar draws Cymru. Mae Llwyfan Newydd (New Heights) a Bloedd yn hyrwyddo cynhwysiant, yn rhoi llwyfan i artistiaid o Gymru ac yn cynnig rhyddid creadigol i wahodd cerddorion ac artistiaid amgen ac amrywiol i berfformio yng Ngŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru.
Byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion am yr artistiaid a'r amserlen dros yr haf. Eisiau bod y cyntaf i glywed am y bandiau gwych, gweithgareddau a stondinau bwyd blasus? Cofrestrwch i roi gwybod i ni eich bod yn dod a byddwch hefyd yn cael côd disgownt o 10% i'w ddefnyddio yn Siop yr Amgueddfa yn Sain Ffagan.