Gŵyl Fwyd Sain Ffagan - Rhaglen yr Ŵyl

12-13 Medi 2026

Y
Rhaglen

Winwns arobryn ac unffurf berffaith o Bencampwriaeth Cangen Cymru y Gymdeithas Lysiau Genedlaethol 2023.

Cymdeithas Lysiau Genedlaethol – Pencampwriaeth Cenedlaethol 2026

12 a 13 Medi

10:00-17:00

Lleoliad: Prif Fynedfa (1)

Rydym wrth ein bodd yn cynnal Pencampwriaeth ysblennydd y Gymdethas Lysiau Genedlaethol, fel rhan o Ŵyl Fwyd Sain Ffagan eleni eto. Gan ein bod wedi croesawu Pencampwriaethau Cangen Cymru i'r Ŵyl ers blynyddoedd lawer, rydym yn arbennig o falch o gael ein dewis fel lleoliad ar gyfer Pencampwriaethau'r DU, sy'n cael eu cynnal yng Nghymru eleni. Edrychwn ymlaen at groesawu arddangoswyr o bob rhan o'r DU i Gaerdydd.

Dyma gyfle i weld y grefft o dyfu llysiau ar ei gorau – gallech ei galw yn gelfyddyd hyd yn oed. Dewch i weld un o draddodiadau garddwriaethol gorau Prydain, a chael ysbrydoliaeth i ddechrau tyfu yn yr ardd.

Os ydych yn mynychu’r sioe fel arddangoswyr, gallwch gael mynediad i’r Amgueddfa o bentref Sain Ffagan yn unig dros nos. Defnyddiwch CF5 6EA ar gyfer sat nav (croesfan reilffordd Sain Ffagan) ac ewch i’r porthdy diogelwch wrth gyrraedd.