Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Gan y bydd mwy o ymwelwyr dros gyfnod ein Gŵyl Fwyd flynyddol, ar ddydd Sadwrn 13 a dydd Sul 14 Medi dim ond yn y dderbynfa ar y diwrnod fydd tocynnau CoedLan ar gael i'w prynu.
Dringwch, neidiwch, camwch a siglwch eich ffordd drwy’r coed fry uwchben adeiladau Sain Ffagan, cyn cymryd y wifren wib yn ôl i dir cadarn. Taclwch 18 rhwystr CoedLan, gan gynnwys y boncyff balans, y bont gam, y rhwydi cargo a’r wifren wib.
Mae'r cwrs yn costio £12 y pen am un daith lawn o gwmpas y cwrs, sy'n cynnwys gwifren wib 50m i orffen. Prynwch eich tocynnau o'r dderbynfa yn y prif adeilad.
Rhaid bod o leiaf 110cm o daldra, a dros 6 oed, i gymryd rhan. Rhaid i blant rhwng 110cm a 130cm fod yng nghwmni unigolyn dros 130cm a dros 12 oed. Y pwysau trymaf a ganiateir yw 18 stôn.
Dylech wisgo dillad sy'n addas i'r tywydd. Esgidiau yn unig, dim sandalau, sodlau uchel, fflip-fflops nag esgidiau sy'n llithro ymlaen. Rhaid gwagio pocedi, tynnu gemwaith, a chlymu gwallt hir yn ôl.
Cwestiynau Cyffredin