Gŵyl Fwyd Sain Ffagan - Rhaglen yr Ŵyl
12-13 Medi 2026
Y
Rhaglen
Adloniant Bloedd
12 a 13 Medi
11:00-16:00
Lleoliadau: Ar draws y safle
Mae Bloedd yn cymryd yr awenau dros yr adloniant eto eleni, gan guradu rhaglen o berfformiadau crwydrol a phrofiadau cyfranogol a fydd yn ymddangos mewn gwahanol leoliadau dros y ddau ddiwrnod.
Mae rhaglen adloniant yr ŵyl eleni'n archwilio sut mae afonydd Cymru wedi cysylltu cymunedau ers amser maith, wedi llunio traddodiadau bwyd, ac wedi cario straeon ar draws Cymru a thu hwnt.
Mae ein rhaglen Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yn cynnig cyfleoedd â thâl i oedolion ifanc sy'n byw yn Nghymru.
Dyma sydd gan ein Cynhyrchwyr Creadigol ei ddweud am eu profiadau o weithio ar y prosiect:
Cara:
"Rwy'n gyffrous i fod yn gweithio ar yr Ŵyl Fwyd eleni ac i gynnwys cymaint o greadigrwydd â phosibl, yn enwedig trwy ddod o hyd i gyfleoedd i gynulleidfaoedd gymryd rhan a bod yn rhan o bethau creadigol hefyd. Bydd cyfuno ystod eang artistiaid ar draws disgyblaethau a chefndiroedd yn helpu i lunio egni'r ŵyl dros y ddau ddiwrnod."
Anne:
"Mae curadu'r rhaglen hon wedi bod yn gyfle anhygoel. Mae'n dathlu straeon Cymru drwy fwyd, cerddoriaeth, a phrofiadau a rennir, wrth wahodd cynulleidfaoedd i weld traddodiadau cyfarwydd drwy lygaid ddres a chydnabod sut mae diwylliant yn cael ei siapio'n gyson gan y bobl sy'n byw yma a'r rhai sy'n dod â safbwyntiau newydd. Rwy'n gobeithio y bydd ymwelwyr yn gadael gan deimlo eu bod nid yn unig wedi profi'r ŵyl ond wedi dod yn rhan o'i stori."
Eisiau bod y cyntaf i glywed am y bandiau gwych, gweithgareddau a stondinau bwyd blasus? Cofrestrwch i roi gwybod i ni eich bod yn dod a byddwch hefyd yn cael côd disgownt o 10% i'w ddefnyddio yn Siop yr Amgueddfa yn Sain Ffagan.