Gŵyl Fwyd Sain Ffagan - Rhaglen yr Ŵyl

12-13 Medi 2026

Y
Rhaglen

Ardal Bwyd Da Caerdydd

12 a 13 Medi

10:30-16:30

Lleoliad: Cae Cilewent (gyferbyn â 46)

Bydd Ardal Bwyd Da Caerdydd yn dathlu enwi Caerdydd yn un o ddinasoedd bwyd mwyaf cynaliadwy’r DU. Ymunwch â gweithgareddau hwyliog i’r teulu cyfan i ddysgu am fwyd sy’n dda i bobl a’r blaned. Bydd y babell yn cynnwys gweithdai ysbrydoledig, arddangosiadau, sgyrsiau a gweithgareddau yn dathlu bwyd lleol.

Mewn partneriaeth â Bwyd Caerdydd

Cefnogir gan Bwyd a Diod Cymru

AMSERLEN:

DYDD SADWRN 13 MEDI

11.30am-12.30pm
Ffa Atgyfnerthu: Hwyl Bwyd i'r Teulu gydag ACE
Torchwch eich llewys a dewch i gael profiad ymarferol gyda ffa yn y gweithdy teuluol hwyliog hwn! Gwnewch eich Cwpanau Ffa Tymhorol eich hun, rhowch gynnig ar Smwddi Ffa Gwyn a Ffrwythau blasus, a darganfod pam fod ffa yn wych i bobl a'r blaned. Gyda gemau, gweithgareddau lliwio, ffeithiau diddorol am ffa, a her Dyfalwch y Codlys - mae rhywbeth at ddant pawb!

12.30pm-1pm 

Dewch i adnabod byd bwyd Caerdydd gyda Llio Angharad

Ymunwch â Llio wrth iddi sgwrsio â busnes bwyd lleol sy'n masnachu yn yr ŵyl am eu taith, eu hangerdd dros fwyd a'u hymrwymiad i gynaliadwyedd. Darganfyddwch y bobl y tu ôl i'r cynnyrch, clywch beth sydd ei angen i redeg busnes bwyd lleol, ac archwiliwch sut y gall bwyd lleol gefnogi cymunedau iach, yr economi leol a system fwyd mwy cynaliadwy.

1-2pm
Arddangosiad Bara Surdoes gyda Pettigrew Bakeries
Dewch i weld David Le Masurier yn creu bara surdoes gan ddangos sut mae cynhwysion syml yn creu rhywbeth blasus.

2-3pm
Microwyrddion Mawreddog! gyda Grow Cardiff
Ymunwch gyda ni i archwilio rhyfeddodau tyfu microwyrddion. Cyfle i blant a theuluoedd greu potiau wedi eu huwchgylchu a phlannu hadau. Cewch fynd â’r cynnyrch adref, gwylio nhw’n tyfu a mwynhau y blasu!

3-3.30pm
Lleihau Gwastraff Bwyd gyda Thîm Deieteg Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro
Arddangosiad bwyd ymarferol sy'n arddangos ffyrdd syml, iach o leihau gwastraff bwyd gartref. Darganfyddwch awgrymiadau ar gyfer gwneud y defnydd gorau o gynhwysion bob dydd, storio bwyd yn ddiogel, a chreu prydau blasus, iach, a bydd samplau ar gael i’w blasu!

3.30-4.15pm
Arbed Hadau ar gyfer Gwytnwch gyda Global Gardens Project
Cyflwyniad i arbed hadau gydag elfennau ymarferol a thrafodaeth ynghylch bioamrywiaeth, gwytnwch a thyfu cymunedol. 

DYDD SUL 14 MEDI

11.30am-12pm
Pŵer Codlysiau mewn 30 munud gydag ACE

Ymunwch â ni am arddangosiad coginio bywiog sy'n arddangos ryseitiau codlysiau cyflym, blasus a fforddiadwy y gallwch eu hail-greu gartref. Darganfyddwch sut y gall ffa, pys a ffacbys ychwanegu blas, maeth ac amrywiaeth at brydau bwyd bob dydd yn ogystal â bod yn dda i'r blaned a’ch iechyd!

12-1pm
Taith: Gerddi Lysiau Drwy'r Oesoedd gyda Garddwyr Sain Ffagan
Ymunwch â Thîm Garddio yr Amgueddfa am daith dywys sy'n archwilio sut mae tyfu llysiau wedi esblygu yng Nghymru ar draws tirwedd hanesyddol Sain Ffagan.

Darganfyddwch dechnegau traddodiadol fel gwelyau wedi'u codi a gwasgaru hadau yn Hendre'r-Ywydd-Uchaf, ochr yn ochr â thystiolaeth archaeolegol ac arolygon amaethyddol yn Nantwallter. Dysgwch am hadau treftadaeth ac amrywiaethau hanesyddol o gnydau, gan gynnwys tatws a dyfwyd yn Rhyd-y-car, a datgelwch straeon o'r ymgyrch Cloddio am Fuddugoliaeth yng ngardd y Prefab. Ar hyd y ffordd, fe welwch offer hanesyddol fel driliau hadau, ac archwilio absenoldeb rhyfedd tatws yng nghardd Ffermdy Abernodwydd.

Cyfarfod ym mhabell Ardal Bwyd Da Caerdydd i ddechrau'n brydlon am 12pm. Bydd y daith yn cynnwys cerdded ar dir cymysg ac efallai na fydd yn addas ar gyfer pob angen hygyrchedd. Mae lleoedd yn gyfyngedig a byddant yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'r gweithgaredd hwn yn ddibynnol ar y tywydd.

1-2pm
Microwyrddion Mawreddog! gyda Grow Cardiff
Ymunwch gyda ni i archwilio rhyfeddodau tyfu microwyrddion. Cyfle i blant a theuluoedd greu potiau wedi eu huwchgylchu a phlannu hadau. Cewch fynd â’r cynnyrch adref, gwylio nhw’n tyfu a mwynhau y blasu!

2-2.30pm
Lleihau Gwastraff Bwyd gyda Thîm Deieteg Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro
Arddangosiad bwyd ymarferol sy'n arddangos ffyrdd syml, iach o leihau gwastraff bwyd gartref. Darganfyddwch awgrymiadau ar gyfer gwneud y defnydd gorau o gynhwysion bob dydd, storio bwyd yn ddiogel, a chreu prydau blasus, iach, a bydd samplau ar gael i’w blasu!
 
2.30pm-3pm 

3-3.45pm
Arbed Hadau ar gyfer Gwytnwch gyda Global Gardens Project
Cyflwyniad i arbed hadau gydag elfennau ymarferol a thrafodaeth ynghylch bioamrywiaeth, gwytnwch a thyfu cymunedol.