Gŵyl Fwyd Sain Ffagan - Rhaglen yr Ŵyl
12-13 Medi 2026
Y
Rhaglen
Ardaloedd Bwyd Stryd
12 a 13 Medi
10:00-18:00
Lleoliadau: Cilewent (46), Iard y Tanerdy (drws nesaf i rif 27), Lawnt Gwalia (21) a Lawnt Oakdale (24)
Dewiswch o blith amrywiaeth o fwydydd o bob cwr o'r byd, o fwyd traddodiadol Cymreig i fyrgyr, bwyd Mecsicanaidd, Jamaica, Indiaidd, hufen iâ a llawer mwy. Bydd yna ddigon o opsiynau ar gyfer prydau llysieuol, fegan a bwydydd heb glwten. Bydd bariau pop-yp yr Amgueddfa hefyd wedi'u gwasgaru o amgylch yr ardaloedd hyn yn gwerthu eu hamrywiaeth o lager, seidr, coctels a diodydd meddal.
Byddwn yn cyhoeddi rhestr lawr o'n stondinwyr dros yr haf. Eisiau bod y cyntaf i glywed am y bandiau gwych, gweithgareddau a stondinau bwyd blasus? Cofrestrwch i roi gwybod i ni eich bod yn dod a byddwch hefyd yn cael côd disgownt o 10% i'w ddefnyddio yn Siop yr Amgueddfa yn Sain Ffagan.