Gŵyl Fwyd Sain Ffagan - Rhaglen yr Ŵyl

12-13 Medi 2026

Y
Rhaglen

BSL

Cyfieithwyr ar y Pryd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) Symudol

12 a 13 Medi

10:00-18:00

Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd Iaith Arwyddion Prydain (British Sign Language / BSL) ar gael yn y digwyddiad. Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu gan gyfieithwyr ar y pryd cwbl gymwysedig a rhai cyfieithwyr ar y pryd dan hyfforddiant / Gweithwyr Cymorth Cyfathrebu (CSWs).

Mae cyfieithwyr ar y pryd symudol ar gael yn y digwyddiad i dywys ymwelwyr B/byddar o amgylch yr ŵyl, mynychu gweithdai gyda nhw, ac i'w helpu i archebu bwyd a diod. Gellir archebu cyfieithwyr ar y pryd symudol ar y diwrnod o'r babell cyfieithwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yng Nghae Cilewent (gyferbyn ag adeilad rhif 46).

Bydd rhai gweithgareddau’n cael eu harwain gan hwyluswyr byddar – gan gynnwys amser stori a gweithdai crefft.

Os oes angen cymorth neu gefnogaeth arnoch chi ar gyfer gweithgareddau nad ydynt yn cael eu darparu gan hwyluswyr byddar, ewch i'r babell cyfieithwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i archebu cyfieithydd ar y pryd symudol.