Delweddau Diwydiant

Tanciau Amlwch

HOLME, Graham

(Nid oes modd darparu delwedd o'r gwaith celf hwn ar hyn o bryd. Mae hyn naill ai oherwydd cyfyngiadau hawlfraint, neu oherwydd bod y ddelwedd yn aros i gael ei digideiddio. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan hyn.)

Dyddiad: 1996

Cyfrwng: print ar bapur

Maint: 295 x 420 mm

Derbyniwyd: 1996; Prynwyd

Rhif Derbynoli: 1996.199

Print argraffiad cyfyngedig rhif 124 o 750.

Injan dosbarth 40 Rhif 40 020 'Franconia' i’w gweld yma ar fore o hydref yn niwedd y 1970au yn gwneud gwaith shyntio yng ngweithfeydd cysylltiol yr Associated Octel Company Limited yn Amlwch, Ynys Môn; terfyn y lein gangen o Gaerwen. Traffig y gweithfeydd yn unig fyddai’n defnyddio’r lein hon o 1964 tan i bob gwasanaeth trên orffen ym 1994.
Cai sylffwr o Ddociau Mostyn, wedi’i gario mewn wagenni hopran agored, a chlorin hylif mewn tanceri eu cludo i’r gweithfeydd a chludid cynnyrch ethylen deubromid ymaith mewn tanceri. Roedd digon o alw am ddwy drên y diwrnod am gyfnod.
Byddai’r trên fel arfer yn cael ei thynnu gan locomotifau dosbarth 24, 25, 40 neu 47 o sied Cyffordd Llandudno.     

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Delweddau Diwydiant

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall