Delweddau Diwydiant
Golygfa o Drychineb Senghennydd, 1913
BROOME, Thomas
Dyddiad: 1913
Cyfrwng: dyfrlliw dros bensil ar bapur
Maint: 330 x 430 mm
Derbyniwyd: 2012; Rhodd
Rhif Derbynoli: 2012.79
Yn 2012 rhoddwyd llun sy'n gysylltiedig â'r trychineb i’r Adran Ddiwydiant gan löwr dywysydd a oedd yn gweithio yn Big Pit. Dyma ei stori:
Mae'r darlun hwn wedi bod yn y teulu ers 1913 ac mae'r stori y tu ôl i’r llun wedi cael ei drosglwyddo i lawr i mi, er bod ymchwil diweddar gan Ystafell Goffa Senghennydd wedi codi amheuon ynghylch rhai o’r manylion.
Dywedir mai fy mam-gu yw’r wraig sy’n llefain yn y llun. Ar adeg peintio’r llun ym 1913, Sarah Jane Price oedd hi.
Mae hi'n llefain oherwydd bod ei gŵr cyntaf George A Price, glöwr 28 oed o 137 Stryd Fawr, Abertridwr, yn cael ei gario o leoliad y trychineb ar y stretsier.
Rwy’n credu mai Rachel Price, ei merch o’i phriodas gyntaf yw’r ferch wrth y drws. Y bachgen yw ei mab, James Price (2 flwydd oed) a'r babi yw George Abraham Price (8 mis oed).
Cafodd yr olygfa ei pheintio gan fy nhad-cu, Thomas Broome, sef ffrind gorau gŵr cyntaf fy mam-gu, sef y corff ar y stretsier yn ôl y sôn. Fodd bynnag, ni chafodd corff George A. Price ei ganfod a’i adnabod tan 31 Mawrth 1914. Felly, nid yw stori’r teulu ynglŷn â’r darlun yn gwbl gywir. Yn ogystal, ni fyddai wedi bod yn bosibl gweld y lofa o’r tŷ yn Abertridwr. Roedd fy nhad-cu yn rhan o'r ymdrechion i achub y gweithwyr, yn ogystal â bod yn artist amatur, a dyma’r olygfa y dewisodd ei pheintio’n ddiweddarach.
Syrthiodd fy nhad-cu mewn cariad â'r wraig yn y llun a’i phriodi ym 1914. O’r briodas hon y ganed fy nhad Henry William Broome yn ddiweddarach.
Yn ogystal, collodd fy Mam-gu, Sarah Jane Price, ei thad (fy hen dad-cu), John Phelps, The Huts, Senghennydd a oedd yn halier 26 oed (ei gorff ef oedd naill ai'r 15fed neu'r 16eg corff i’w ganfod) yn nhrychineb Senghennydd 1901, felly, fe gollodd hithau ei thad a'i gŵr o fewn 12 mlynedd yn yr un pwll glo.
Yn ddiweddarach aeth fy nhad i weithio yn y pyllau glo, felly fi yw’r bedwaredd genhedlaeth o lowyr yn fy nheulu.