Delweddau Diwydiant

Lamp fflam diogel Hepplewhite Gray

Hepplewhite Gray

Dyddiad: early 1900s

Cyfrwng: pres

Maint: 90 x 350 mm

Derbyniwyd: 1993; Prynwyd

Rhif Derbynoli: 1993.249

Defnyddiwyd y lamp canfod nwy hon yng Nglofa Universal, Senghennydd ym mlynyddoedd cynnar y ganrif ddiwethaf.

Y perchennog oedd Bowen Jones, un a gollodd ei fywyd yn ffrwydrad 1913.

Yn ôl adroddiad y Swyddfa Gartref, y math o lamp ddiogelwch a fyddai’n cael ei defnyddio ym mhwll glo'r Universal ym 1913 oedd y math Cambrian a wnaed gan Thomas a Williams, Aberdâr. Byddai lampau yn cael eu cynnau, eu cloi a'u dosbarthu i weithwyr a swyddogion yr ystafell lampau ar yr wyneb. Byddent yn cael eu harchwilio eto o dan y ddaear ar ddechrau'r sifft, yn y ‘lamprwm’. Pe bai lamp yn diffodd o dan y ddaear byddai disgwyl i weithiwr i fynd i 'gaban lampau' lle byddai gweithwyr penodol yn gyfrifol am ailgynnau’r lampau. Cafodd fflam agored yng nghaban lamp ochr orllewinol y pwll ei gynnig fel un o achosion posibl y danchwa.

Gan amlaf, swyddogion y pwll yn hytrach na gweithwyr fyddai’n defnyddio lamp Hepplewhite Gray (er nad oes sôn iddynt gael eu defnyddio ym mhwll glo'r Universal ym 1913) ac mae'n bosibl bod Mr Bowen Jones yn un ohonyn nhw, er nad yw ei enw yn ymddangos fel un o'r pedwar ‘ffeiarman’ ar ddeg a oedd i lawr y pwll ar adeg y danchwa.

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Alzubaidi oudai
11 Ebrill 2021, 09:49
Wonderfull how much pleas
Nôl i hafan Delweddau Diwydiant

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall