Delweddau Diwydiant

Dyddiad: circa 1913

Cyfrwng: metel

Maint: 52 x 75 x 16 mm

Derbyniwyd: 2002; Rhodd

Rhif Derbynoli: 2002.175

Gwisgwyd gan William Edward Beck, a laddwyd yn ffrwydrad Glofa Universal, Senghennydd, 14 Hydref 1913.

Roedd y dasg o adnabod cannoedd o gyrff, yn aml wedi’u llosgi’n wael, neu eu hanffurfio fel arall, yn anodd iawn. Yn aml, byddai’n rhaid adnabod dynion a bechgyn trwy eu dillad neu eu heiddo personol. Daeth William Edward Beck i dde Cymru o Broadway yng Ngwlad yr Haf i chwilio am waith rhywbryd cyn 1900. Dim ond trwy’r oriawr hon y bu modd adnabod corff Mr Beck. Cafodd y tolc yn y cefn ei achosi naill ai gan y danchwa neu gan dir yn cwympo am fod cynhalbost y to wedi llosgi. Roedd yn 43 mlwydd oed pan fu farw ac yn byw yn 45 Springfield Terrace, Nelson. Cafwyd hyd iddo, yn ôl pob golwg, yn agos at ei gefnder ac mae'r ddau wedi’u claddu ym mynwent Ystrad Mynach.

 

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Marc Haynes Staff Amgueddfa Cymru
3 Hydref 2019, 16:22

Hi William,

Thank you very much for your enquiry. The pocket watch belonging to your great-grandfather is on display in the Pithead baths exhibition area at Big Pit National Mining Museum, in a display case of objects connected to the Senghenydd disaster. I’m afraid we are not able to give the donors’ details directly to enquirers, but we will ask them whether they would like to get in touch with you.

Best wishes,

Marc
Digital Team

william birrell
1 Hydref 2019, 09:04
Hi,
William Edward Beck was my great grandfather and I am interested if you could tell me who donated the watch to the museum ( is it on view and if so where?) .

Also for your information I was the project engineer on the mining memorial at Senghenydd which was opened in Oct 2013 and donated a book belonging to William to the local museum/trust.

regards

William Birrell
Nôl i hafan Delweddau Diwydiant

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall