Delweddau Diwydiant
Rhif Derbynoli: 2011.3/1
Awyren fomio De Havilland wedi'i hamgylchynu gan dorf fawr. Mwy na thebyg taw'r peilot, W. J. Hamilton Morgan, yw un o'r ddau ddyn sy'n sefyll ar y tu blaen. Roedd W. J. Hamilton yn beilot yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac wedi hedfan 27 cyrch peryglus yn Ffrainc tyfodd hiraeth mawr ganddo am adref. Ym 1918, hedfannodd yr awyren i Aber-craf lle tynnwyd y llun hwn - a chafodd ei hun mewn llys milwrol o'r herwydd. Mae'n debyg taw'r milwyr sy'n ysgwyd llaw ag ef yn y llun hwn gafodd eu hanfon i'w arestio.